P-06-1354 Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi rasio milgwn yng Nghymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan David Tams, ar ôl casglu 10,601 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ystyried gwahardd rasio milgwn yng Nghymru.

 

Mae'r gwaharddiad posibl hwn wedi'i gyflwyno drwy ddeiseb a gyflwynwyd gan elusen. Rwyf fi o’r farn nad oedd y wybodaeth a ddefnyddiwyd i greu’r ddeiseb honno yn ffeithiol gywir, a’u bod wedi defnyddio ffigurau a oedd wedi’u chwyddo’n aruthrol o ran nifer y milgwn a gaiff eu hanafu, a hynny heb ddim tystiolaeth ategol. Mae'r elusen wedi cael cais am dystiolaeth ar sawl achlysur ond mae wedi gwrthod. Cafodd y ddeiseb 35,000 o lofnodion ond roedd llai na 19,000 o'r llofnodion hyn o Gymru.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

Byddai gwahardd rasio milgwn yn cael effaith economaidd ar unigolion sy'n ymwneud â'r diwydiant. Byddai effaith uniongyrchol hefyd ar Stadiwm y Cwm, ac ar ddatblygiad tymor canolig a hirdymor ardal Ystrad Mynach. Byddai effaith negyddol hefyd ar frid y milgi.

 

Mae Stadiwm Milgwn y Cwm yn y broses o ddod yn drac cofrestredig Bwrdd Milgwn Prydain Fawr (GBGB). Mae'n rhaid i bob trac a drwyddedir gan GBGB gadw at Reolau Rasio'r rheolydd sy'n ceisio cynnal y safonau uchaf oll o ran lles a chywirdeb trin milgwn. Mae dros 200 o reolau sy'n ymwneud â phob agwedd ar sut mae'r gamp yn cael ei chynnal a'i rheoleiddio, gan gynnwys sut y gofelir am filgwn pan fyddant ar y trac, gartref yng nghytiau preswyl eu hyfforddwr, wrth gael eu cludo ac yng nghyfnod eu hymddeoliad.

 

Ar hyn o bryd mae gan y Senedd grŵp trawsbleidiol i gefnogi rasio ceffylau yng Nghymru, a gofynnwn am i’r un gefnogaeth gael ei dangos i rasio milgwn.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Islwyn

·         Dwyrain De Cymru